dimarts, 22 de març del 2011

WELSH RAREBIT


Saws sawrus ydy Welsh rarebit, Welsh rabbit, a gynhyrchir gyda caws wedi ei dodd a chynwysion eraill, a caiff ei weini'n boeth ar ben bara wedi ei dostio. Mae'r enw'n tarddu o'r 18fed ganrif gyda'r term Saesneg am Gymreig. Caiff Welsh rarebit ei gynhyrchu gan ddefnyddio Caws Cheddar fel rheol, sy'n wahanol fondue Ewropeaidd sy'n draddodiadol yn dibynnu ar gaws o'r Swistir; gellir cysidro fod Welsh rarebit yn amrywiaeth lleol ar y traddodiad hwn:

"Eighteenth-century English cookbooks reveal that it was then considered to be a luscious supper or tavern dish, based on the fine cheddar-type cheeses and the wheat breads […] . Surprisingly, it seems there was not only a Welsh Rabbit, but also an English Rabbit, an Irish and a Scotch Rabbit, but nary a rarebit."

Mae amryw o rysetiau gwahanol ar gyfer Welsh rarebit, sy'n cynnwys cwrw, mwstard, pupur cayenne neu paprika a Saws Swydd Gaerwrangon. Gellir hefyd cynhyrchu'r saws drwy gyfuno caws a mwstard i greu saws béchamel or Mornay sauce). Mae rhai rysetiau ar gyfer Welsh rarebit wedi dod yn gyffredin yn llawlyfrau Escoffier, Saulnier ac eraill, sy'n tueddu i ddefnyddio'r sillafiad rarebit yn hytrach na rabbit (sy'n golygu cwningen yn Saesneg), er mwyn pwysleisio nad yw'r bwyd yn cynnwys cig. Gellir prynu'r saws wedi ei rewi gan Stouffer's mewn archfarchnadoedd yn yr Unol Daleithiau.